Am y wefan hon

Fel arbrawf bach, 'da ni wedi creu gwefan ar gyfer y 'steddfod o'r enw Stwnsh Steddfod, sy'n cymeryd gwybodaeth o Flickr, Twitter a Google a'i rhoi ar un dudalen cyfleus.

Y bwriad oedd i weld os oedd hi'n bosib i greu gwefan cyflym i ddangos defnydd o wefannau cymdeithasol gan y bobl sy'n mynd i ddigwyddiadau fel y 'Steddfod. Os bydd y wefan yn llwyddiant, fe wnawn ni ddatblygu y syniad yn bellach ar gyfer Eisteddfod yr Urdd, Y Sioe Frenhinol ac ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol 2010. (Wel, fydd o 'n ol beth bynnag, ond wedi datrys unrhyw problemau).

Mae'r dudalen Trydar yn diweddaru pob 2.5 munud. Os da chi ar faes y 'Steddfod, rhowch #eisteddfod09 neu #eisteddfod yn eich neges. Os da chi'n cymeryd lluniau ac yn defnyddio gwefan Flickr, yna plis fysa chi'n taggio'r lluniau gyda Eisteddfod a hefyd Bala. Y rheswm am y gwahaniaeth yw'r ffordd y mae Flickr yn chwilio am luniau, a dewis tagiau bobl a chwmniau fel y BBC.

Gwelwch chi hefyd fod calendr cyhoeddus Google i'w gael, sy'n rhestru rhai o ddigwyddiadau wythnos y 'Steddfod. Os da chi eisiau ychwanegu at y rhestr, yna e-bostiwch efo manylion y digwyddiad a fe wnawn ni geisio ychwanegu y manylion mor gyflym a phosib.

Mae yna rhestr anferth o bethau y byswn wedi hoffi rhoi ar y wefan yma, fel blogiau, mynediad gwell i'r lluniau a phopeth. Y gwir yw, cafodd y wefan yma ei roi at ei gyllid dros y 5 diwrnod diwethaf. Roedd rhaid i ni ganolbwyntio ar gael y pethau hanfodol i weithio yn gyntaf. Mae'n siomedig nad oedd amser i roi yr holl bethau yma i fewn.

Mae'r wefan yma yn gyfuniad o syniadau sawl un o aelodau rhwydweithiau cymunedol cymdeithasol Cymru (Megis Trydar, Facebook ayyb).

Mae côd y dudalen Trydar a Flickr wedi ei selio ar gôd gan Dean Thorne ar gyfer F1 Tweets a wedi ei addasu ar gyfer y Stwnsh Steddfod gan Bryn Salisbury.

Adeiladwyd y map gan Rhys Llwyd trwy ddefnyddio Google Maps.

Dyluniwyd y tudalennau gan Gareth Jones.

Diolch hefyd i Rhys Wynne am ei syniadau a help gyda'r calendr.

Hefyd, diolch i Rhodri ap Dyfrig, Aled Griffiths a Menna Machreth am ei adborth yn ystod adeiladu 'r gwefan.