Offer Cymraeg ar gyfer OpenOffice 3.0

Di hwn ddim yn newyddion diweddar o gwbl (mis Tachwedd gafodd o’i lansio), ond meddwl ei fod yn werth ei grybwyll eto gan fod hi’n bwysig i sefydliadau ac unigolion ddechrau defnyddio’r meddalwedd hyn yn y Gymraeg os yw ar gael. Mae Meddal yn gwneud gwaith da iawn ar leoleiddio meddalwedd a dwi’n falch iawn os gall Metastwnsh gefnogi nhw yn y gwaith hwn.

Dyma ddatganiad o flog Murmur:

Offer Cymraeg ar gyfer OpenOffice.org fersiwn 3

Yn dilyn rhyddhau fersiwn 3 o OpenOffice.org roedd angen diweddaru ac ail-becynnu’r gwirydd sillafu Cymraeg sylfaenol a ddatblygwyd gennym nôl yn 2004 ar gyfer OpenOffice.org. Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod y gwirydd diwygedig yn awr ar gael ar ffurf estyniad, ac mae modd ei lwytho i lawr a’i osod o

http://extensions.services.openoffice.org/project/lingucomponent-cy.

Cofiwch hefyd fod fersiwn Cymraeg o ryngwyneb fersiwn 3 OpenOffice.org ar gael, wedi’i leoleiddio gan criw Meddal.com. Ewch i fan hyn i lwytho lawr y fersiwn ar gyfer eich system weithredu chi (h.y. Windows, Mac neu Linux).

Hoffen i ddefnyddio hwn ar fy EeePC ond sgen i ddim clem sut i lwytho fo i’r OS Linux crapi sydd ar y gliniadur (Xandros). Star Office sydd yno fel default ar hyn o bryd ond dwi’n meddwl bydda i’n newid i EeeBuntu (sydd ar fin cael ei ail-frandio yn Easy Peasy) er mwyn cael OpenOffice, jest cyn gynted a dwi’n deall sut …

Share and Enjoy:
  • Digg
  • Technorati
  • del.icio.us
  • StumbleUpon
  • TwitThis
  • Facebook
  • Google Bookmarks

If you enjoyed this post, please consider to leave a comment or subscribe to the feed and get future articles delivered to your feed reader.

Sylwadau

Dim sylwadau eto.

Gadewch sylw

(gofynnol)

(gofynnol)